Cliciwch ar y botymau

E Ll: enwau lleoedd

Themâu Mapiau Llên Natur

Ein holiaduron : 

■ Oes y Tramp

■ Gwalchwyfyn Hofrol

CLICIWCH! 

Pwrpas tudalen mapiau Llên Natur yw cyflwyno gwybodaeth sy'n bennaf seiliedig ar LEOLIAD. Y pwrpas yw ceisio amlygu patrymau na fuasent yn amlwg heb eu rhoi ar fap. Mae mapiau aml-lefel yn caniatau dangos gwybodaeth lawn am bob cofnod heb greu dryswch ar unrhyw olygfa unigol.

Dyma'r mapiau o dan gyfres o themau: mae chwech thema gwahanol ar gael ar hyn o bryd...

Thema arsylwi rhywogaethau: map rhyngweithiol cofnodion Gwalchwyfyn y Taglys

Thema meddyginiaethau gwerin: un map hyd yma (y defnydd o ddanadl poethion yn seiliedig ar astudiaeth Ann Elizabeth Williams)

Thema enwau lleoedd: dosbarthiad pedwar enw ar y LLWYNOG yng Nghronfa Ddata Enwau Lleoedd Melville Richards

Thema Daeareg: dosbarthiad graddfeydd o gryndod Daeargryn 1984 yn ôl cof llygad-dystion

Thema Adar: dosbarthiad graddfeydd o amlder clywed y gôg adeg Cau Mawr Cofid 2020 

Thema Pobl: map am gofnodion trampiaid Cymru