Yorkie neu Darkie

■ Dw i’n cofio rhai o’r 50au a’r 60au yn Nolgellau. Roedd na un a alwem yn ‘Yorkie’ a ymwelai bob yn hyn a hyn ac a gysgai yn y sgubor ar Rhiw Garreg Feurig. Roedd na un arall oedd yn ddyn byr, gwengar, a gludai ei eiddo mewn hen bram. Meddwl mod i’n cofio’n gywir!

Elen Huws

■ Cofio am un o'r enw Darkie yn dod i Felin Newydd Rhydymain. Tybed yden ni yn cyfeirio at yr un person? Wnes i erioed nabod Darkie fy hun, dwi ddim yn meddwl ei fod o bryd tywyll

Huw Alun Evans

■ Efallai wir yr un person! ‘Yorkie’ dw i’n gofio - ond gan y byddem ond wedi clywed yr enw (nid ei ddarllen), efallai mai’r un person oedd o - plant Rhydymain a phlant Dolgellau ag enwau chydig yn wahanol iddo.

Elen Huws

Cofio hen wraig yn Aberdaron fydda yn eistedd wrth y pentan yng nghanol mwg ac roedd hithau yn ddu fel glyn. Diffyg ymolchi ar Darkie hefyd efallai!!

Elizabeth Jones

Dwi yn cofio Yorkie. Cofio ei weld yn eistedd ar fainc a oedd pryd hyny ar rhiw Garreg Feurig, Dolgellau. Fel teulu yn mynd am dro o hyd yn stopio i siarad ag e. A dad yn rhoi rhyw geiniog neu ddau iddo.

Eirian James