... di-enw

■ Mae gen i gô plentyn o dramp yn dod i Rhewl ger Rhuthun yn rheolaidd yn nechrau’r 70au. Daw i eistedd ar ochr y palmant ac oedden ni’n mynd â phaned o de allan iddo. Mae’r atgof yma wedi dod â darlun ein hen debot yn syth i’r côf!

Ruth Williams

■ Gen i frith gof o rai o gwmpas Pontrhydfendigaid diwedd y 50au a’r 60au cynnar. Teithio yn dilyn patrwm gwaith amaeth.

Shân Ashton

■ Un yn galw yn gyson ar fferm fy nhad-cu, Pencnwc, Pentrecagal ger Castell Newydd Emlyn. Yn cysgu bob tro yn y sgubor, a’n nhad-cu yn ofnus y byddai yn rhoi’r lle ar dân! Gan fod gan fy nhad-cu chwech o ferched (mam yn un ohonynt).

Byddai’r hen drempyn yn gofyn ‘Where’s your son?’ Tadcu yn ateb yn ei Saesneg gorau ‘Oh, he’s at Oxford’!!!!

Beryl Williams