Daeargryn 1984

Y map

Y Map Rhyngweithiol

Cliciwch ar y rhifau

99 cofnod - 18 Rhagfyr 2022

Daeargryn 1984


Am 06:56 UTC (07:56 BST) ar 19 Gorffennaf 1984 digwyddodd y ddaeargryn fwyaf ar dir Prydain ers dechrau cyhoeddi cofnodion. Fe ddigwyddodd yn Nefyn, Penrhyn Llŷn, Gwynedd, gan fesur 5.4 ar y raddfa Richter. Ewch yma i weld rhai o sylwadau trigolion yr ardal ar y pryd:

https://www.llennatur.cymru/?keywords=%2Bnodiadau%3Adaeargryn%20%2Bbb%3A1984&currentpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=true&bwletinau=true#angori

Diolch i’r cyfryngau cymdeithasol (Cymuned Llên Natur FB) mae’n bosibl ail ymweld âr diwrnod hwn trwy gof a chofnod y rhai a fu’n byw drwyddo. Mae’r map yn dangos dosbarthiad y cofnodion hyn dros Gymru a thu hwnt, yn ogystal â’r cofnodion eu hunain wedi eu priodoli, trwy rif’, i’w lleoliad ar y map.

GELLIR TRIN HWN YN FAP “BYW”. Mae’n rhaid bod miloedd o bobl wedi profi (neu fethu a phrofi - mae cofnodion negyddol o werth hefyd) y digwyddiad, a mater hawdd yw ychwanegu mwy o gofnodion i’r map petaech yn eu hanfon atom trwy Cymuned Llên Natur (Facebook) neu drwy ebost breifat, llennatur@yahoo.co.uk. Daliwch i dynnu ar eich cof - a chofnodi....

Mae'r ail fap (gwaelod isod) yn ceisio categoreiddio profiadau yn ôl eu maint, yn ôl 3 chategori - 'difrod', 'ysgwyd yn unig' a 'chlywed dim'. Isel yw'r cofnodion o 'ddim' hyd yma - peth anodd yw perswadio sylwebwyr am werth cofnodion negyddol. Mae'r tystiolaeth o 'ddifrod' wedi ei ganoli wrth gwrs ar benrhyn Llyn ond mae'r cofnod o ddifrod yn Warrington, swydd Gaer, yn amwys (ydi creiriau yn disgyn oddiar silff dresel yn cyfri fel difrod?)


## Daeargryn 1984 V.pdf

Y Cofnodion

(croesewir i chwi ychwanegu at rhain trwy Cymuned Llên Natur (FB) neu llennatur@yahoo.co.uk)

Cofnodion daeargryn 1984

CLICIWCH AR Y RHIF RHWNG Y CROMFACHAU I WELD Y COFNOD

Y 99 cofnod (cliciwch ar y ddolen isod) :



## Daeargryn 1984 Lleoedd V.pdf