Paddy

■ Mr. Paddy, Gwyddel ma raid, fydda’n arfer galw acw [Trefor]. Eistedd ar y stepan i fyny i’r ardd fydda fo tra byddai mam yn gwneud brechdanau iddo ac yn llenwi ei biser hefo te iddo fynd ar ei daith. “Thank you, kind lady” bob tro wrth ymadael.

Awen Hamilton

■ Cofio cardotyn oedd yn cael ei alw'n Paddy Talsysarn o gwmpas yn Y Groeslon, ydio'r un person tybed?

Ifor D Williams

■ 50au hwyr 60au cynnar dwi'n cofio Washi bach a Padi dwi'n meddwl, Llangristiolus; fe 'roeddent yn arfar cysgu ar adegau yn yr odyn galch o dan fferm Lledwigan…

Derec Owen