John Preis

■ John Price yn dal i grwydro Pen Llŷn yn y ‘60au. Greta Hughes

■ Dwi cofio fy nain yn son am John Price lawer gwaith fydda yn dod i Rhosydd [Llannor, Pwllheli] ei chartref ar y pryd yn y 60au.

Bethan Vaughan Davies

■ John Price 50au a’r 60au ac yn cael paned a brechdan a chysgu yn y tŷ gwair.

Olga Wyn Thomas

■ Dwi'n cofio John Preis yn galw acw pan oeddwn yn blentyn. Roeddwn yn ei weld yn cerdded wrth i mi ddod adref o'r ysgol [Llaniestyn – bu i ysgol Llaniestyn gau yn 1969]. Fina wedyn yn mynd drosodd i'r cae a rhedeg ag allan dros ben giat a rhedeg i ddweud wrth Mam ei fod ar y ffordd acw. Mam yn gwneud paned a bechdan iddo. John yn mynd a deud diolch am y te ar hen frechdan na, doedd hono ddim gwerth diolch amdani roedd hi yn sych…. nid bob amser chwaith oedd yna ddiolch i gael. Un felly oedd o ’de, y cradur, dda fod bawb yn ei adnabod.

Netta Pritchard

■ Oedd Nain yn son lot amdano, cysgu yn clawdd wrth Pant Glas oedd o yn tŷ gwair acw hefyd medda hi.

Dawn Dop

■ Doedd o’m hefyd ochra mynydd Nefyn?

Osian Williams

■ Cofio un yn galw yn Llwyncoed, Cwm-Y-Glo pan oeddwn yn plentyn yn y 70au. Roedd fy nhad yn dweud enwau rhai ohonynt - Syr Ifor, Mr Murphy, a John Price (John Preis) - Fydda fy nhad yn rhoi lifft i John Preis yn amal a fina yn cuddiad yng nghefn y fan am bod gen i ofn o. Mi fydda John yn mynd i tŷ Nain a Taid yn Cwm Pennant yn amal hefyd a gofyn am “sglyfath o'r hen oxo yna” a cysgu yn tu gwair.

Jane Roberts

■ Byddai John Preis yn mynd i Gorllwyn ble byddai fy hen Nain a Taid yn byw. Ar ôl iddynt symud i Aberdaron i fyw byddai yn dwad i’w gweld. Dwi yn ei gofio hefyd.

Wenda Bryn

Fydda John Preis yn dod i Caffi Bodawen Pwllheli i nôl paned o de yn y 60 au pan oeddwn yn gweithio yna .

Llywela Jones