Rhagair Ann Elizabeth Williams, "Meddyginiaethau Gwerin Cymru"
Ym mis Hydref 1976 dechreuais ar fy swydd fel ymchwilydd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, neu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fel y'i gelwir erbyn hyn. Fe'm penodwyd i weithio ym maes Meddyginiaethau Gwerin, ac ym mis Ionawr 1977, ar ôl treulio rhai misoedd yn pori drwy gasgliadau'r Amgueddfa yn ymgyfarwyddo a'r pwnc a llunio holiaduron ar amryfal anhwylderau dyn ac anifail, dechreuais ar y gwaith o holi tô hynaf y boblogaeth ledled Cymru am y meddyginiaethau yr oeddynt wedi'u gweld yn cael eu hymarfer ar yr aelwyd ac ar y fferm neu'r tyddyn pan oeddynt yn blant. Yn Eifionydd y gwnaed y gwaith maes cyntaf, yn holi ffermwyr y cylch. Sylweddolais yn fuan fod yna gyfoeth o wybodaeth i'w chasglu a'i thrysori, a braint fawr fu cael ymgymryd a'r gwaith hwn am gyfnod o ddeuddeng mlynedd, gwaith a roddodd gyfle i mi gwrdd a chymaint o bobl ar hyd a lled Cymru a gwrando ar eu hatgofion am gyfnod plentyndod gan brofi croeso cynnes ar bob aelwyd. Rwyf yn ddyledus iawn iddynt hwy a'u teuluoedd am eu cymorth parod. Mae gennyf atgofion melys am y bobl wybodus, hynaws a chroesawgar hyn a mawr yw fy niolch iddynt. Mae'r deunydd hwn bellach ar gof a chadw yn Amgueddfa Werin Cymru ar ffurf tapiau sain, llawysgrifau a nodiadau. Oherwydd swm a sylwedd y wybodaeth a gasglwyd, ymdrinnir yn y gyfrol hon a meddyginiaethau pobl yn unig. Cefais bleser mawr yn cofnodi a chywain y deunydd toreithiog hwn sy'n ymwneud ag un agwedd ar gynhysgaeth lafar gwerin gwlad.
Anne Elizabeth Williams Mehefin 2017
Paratowyd y mapiau canlynol gyda chydweithrediad parod AEW ar sail tystiolaeth ei chyfrol yn unig, wrth i ni sylweddoli y byddai modd amlygu ymhellach y patrymau diddorol sydd yn llechu yn nhestyn y llyfr. Wrth ddehongli'r mapiau dylid cofio "fy mod wedi gwneud mwy o waith maes yn y de a'r gogledd nag yn y canolbarth.... mae 99% o'r deunydd a gesglais am feddyginiaethau pobl yn y gyfrol [AEW]".
Gobeithir y bydd hyn yn fodd i gofnodi tystiolaeth pellach yn y dyfodol er nad dyna brif bwrpas y prosiect mapio hwn. Gwerthfawrogi a thrysori gwaith gyrfa oes yw unig bwrpas y gwaith sydd gerbron.
Duncan Brown a Dominig Kervegant (Golygyddion Prosiect Llên Natur, 20 Medi 2020)
● bod danadl poethion wedi eu defnyddio at 6 gwahanol gyflwr, yn nhrefn eu pwysigrwydd: y gwaed (9 cofnod), yr arennau a'r iau (7), llwybr y treuliad (6), ac ar raddfa lai y croen (2), yr esgyrn (2) a'r llygaid (1).
● bod yna ddau barth trin anhwylderau'r gwaed, un yn y de orllewin a'r llall yng ngogledd Gwynedd a Sir Conwy.
● bod dau barth 'llwybr treuliad' hefyd, un yn y gogledd ac un yn y de.
● mae'r defnydd o ddanadl poethion at drin yr arennau a'r iau yn dilyn yn fras y ddau barth deheuol blaenorol gyda un atystiad yn y gogledd.
● mae'r ddau atystiad o'i ddefnyddio i drin anhwylderau'r croen yn awgrymu parth anibynnol yn y Canolbarth.
bod y planhigyn yn ei cael ei ddefnyddio yn bennaf at anhwylderau'r croen gyda'r mwyafrif o gofnodion (4) yn y de. Mae'r dosbarthiad yn awgrymu diwylliant llacyn y de orllewin.
Mae gweddill yr atystiadau yn rhy wasgarog i dynnu casgliadau pendant.
Yn groes i'r disgwyl efallai, ni chafwyd yr un cofnod yn tystio i'w ddefnydd at y galon neu'r gwaed. Defnyddid digitalis i drin cyflyrau fel y 'dropsy' , hy. fel ysgogydd cardiac, ers 1785 ond ni ddadansoddwyd y planhigyn tan 1933 (DJ Mabberley, 2008, Mabberley's Plant Book, CUP).
bod tystiolaeth y defnydd o ddant y llew yn amrywiol iawn ond yn dra chlystyrog.
bod defnydd o'r planhigyn at anhwylderau'r ARENNAU A'R IAU yn gyffredin i'r de a'r gogledd (sy'n awgrymu traddodiad hynafol?)
bod triniaeth at y croen yn unigryw i un safle yn y canolbarth (Corris 57), ond mae triniaeth o ddefaid (hefyd cyflwr y croen) yn ymddangos yn yr un parth mawr (Llanwrtyd 58).
Cyd-destun ehangach y defnydd meddyginiaethol o ddant y llew:
Cafwyd mwyafrif (n = 5) o atystiadau at ddefnydd i drin yr arennau a'r iau gan AEW. Mae'r sampl llawer llai fel arall (14) yn cydfynd, neu'n peidio anghydfynd, â thystiolaeth Allen a Hatfield.
Mae'r map CAMOMEIL yn adlewyrchu daearyddiaeth hollol wahanol i'r planhigion blaenorol, sef mai planhigyn yr ardd ydi hwn gan fwyaf. Mae ei ddosbarthiad hanesyddol yn y gwyllt yn denau a chlytiog ac mae wedi prinhau yn arw ers y 1930 oherwydd sychu tiroedd corsiog. Mi fuasai'n ddiddorol gwybod beth oedd ffynhonnell y bobl a dystiodd i'w ddefnyddio fel meddyginiaeth. Mae ambell gofnod yn datgan p'un ai gardd (#84) ynteu gwyllt (#69), oedd honno. Weithiau cysylltid y feddyginiaeth â ffynhonnell ail law (#64). Roedd yr atystiadau mewndirol yn y gogledd yn aml mewn cyfuniad a pherlysiau gardd eraill.
Y patrwm cryfaf yw ei ddefnydd (traddodiadol?) at gyflyrau'r treuliad ar hyd arfordir gogledd a gorllewin Cymru, sy'n cydfynd rhywfaint ag ymlyniad y planhigyn gwyllt i borfeydd gwlybaidd tywodlyd (ee. cofnod #69). Mympwy a hap sydd i'w gweld yn cyfri am ddosbarthiad y lleill, yn gysylltiedig efallai â gwaddol y dosbarth bonedd lleol.