Danadl Poethion
-Y Cofnodion-
Y 31 PWYNT
( Cliciwch ar y rhif )
Mae danadl poethion Urtica dioica yn blanhigyn sydd yn tyfu'n naturiol heddiw ymhob un sgwaryn 10km. dros Gymru fel y gellir gweld o'r map hwn a ddarparwyd gan wasanaeth Cofnod ar ran y bedair canolfan cofnodi yn Nghymru ( http://aderyn.lercwales.org.uk/public/distribution/10k/results?taxon_dict_id=1780571 ). Gyda chysylltiad y rhywogaeth arhosol hon â neitradau yn deillio yn bennaf o borthiant da byw a chnydau, heddiw a thros y degawdau os nad fwy, gellir tybio bod y dosbarthiad yn un hanesyddol o ran patrwm daearyddol sylfaenol ac o ran y patrwm cymharol sy'n dangos dwysder sylweddol uwch yn y de nag yn y gogledd a'r canolbarth. Gyda'r cynnydd sylweddol yn allbynnau neitradau amaethyddol ar y tir dros yr 20ed ganrif hyd heddiw, gellir tybio bod y map yn cuddio'r cynnydd cyffredinol a fu bid siwr yn y planhigyn.
Ond beth all gyfri am y gwahaniaeth rhwng de a gogledd: mwy o boblogaeth yn y de, ac felly o gofnodwyr, ynteu mwy o dir dan amaethyddiaeth dwys yn y de, ac felly all-lif o neitradau i borthi'r danadl ar y llecynnau ymylol? Ychydig o'r ddau efallai. Mae dosbarthiad rhai o'r sgwariau y cofnodwyd U. dioica amlaf ynddynt (melyn) y tu allan i barthau'r de (gogledd Powys a Môn er enghraifft) yn awgrymu dwysder amaethyddol fel achos. Beth bynnag am hynny, nid yw'r gwahanaeth yn nosbarthiad danadl poethin yn cael ei adlewyrchu yn amlwg yn y dystiolaeth o'i ddefnydd meddyginiaethol.