Danadl Poethion Cofnod 25

ARENNAU A IAU

Clwy melyn:... Mae gan hanner y planhigion hyn flodau melyn: “Saladine [celandine], llysiau’r dryw, goes goch, pren melyn, llysiau’r esgyrn, blodau eithin, clust llygoden, dail cwrw, dant y llew, gwraidd wermod lwyd, cywarch gwyllt, cyrens, gwraidd danadl poethion, cribau Sant Ffraid, teim, teim y ddaear, penlas yr w^ydd. Berwi'r cwbl, a'u rhoi trwy hidlen lân. [67 Penygroes, Arfon]