Herbi

Yn y 60 degau rwyn cofio un hen foi yn dod i Gnythog Bellaf ardal Parc y Bala at Hilda Roberts, o’r enw Hyrbi, byr am Herbert oedden ni ’n meddwl. At y cynhaeaf doi bob blwyddyn, roedd yn gofyn i’m tad am binshed bach o faco, ac yn dweud stori am gysgu mewn cut mochyn bach delia rioed, mwswg ar y llawr a sach ar y drws - lle ideal i gal noson o gwsg ar ôl cal tropyn o’r meths. Dwin cofio ei drwyn piws hyd heddiw, hen fachgen clen wedi bod ar y gynnau mawr rhyfel cynta medde nhad ac wedi cael shock a ffwndro PTSD.

Arfon Jones