Washi Bach
Ia, Washi, dod o gwmpas Capel Coch - Ynys Môn. Mam bob amser yn rhoi powlen o fara te iddo. Tori llond powlan fawr o fara. Tepotiad o de drosto, siwgwr a sleisan o fenyn cartre. Wedyn tori tamad rhyw deisen oedd “ar y go” a’i wrapio mewn papur wax Corn flakes. Fyddai’n rhoi yn ei boced. Chware teg fyddai bob amser yn diolch. Ag off afo dan ganu. Tydwi ddim yn cofio’i weld yn y 70 degau.
Sylvia Lee