Cogau Cofid19

Ydi cogau yn dal eu tir yn well mewn rhai ardaloedd nag eraill? Oedd y ‘locdown’ Cofid (pan gafodd llawer ohonom ein caethiwio i’n tai a’n gerddi dros gyfnod ffodus o dywydd braf didor) yn cynnig cyfleon unigryw i ateb y cwestiwn hwn? Ydyn ac oedd!!

Gofynnwyd i aelodau ddechrau Ebrill 2020 nodi’n fras yn ddyddiol faint o weithiau y clywson nhw gogau yn canu o’u gerddi. Dosbarthwyd eu canlyniadau i bedwar grwp o ‘llawer iawn o weithiau” i “dim unwaith”. Mae’r map yn dangos patrwm y pedwar categori yma o ddechrau Ebrill i 10 Mai.

Mae’r patrwm yn awgrymu bod y gog fwya cyffredin ar y tir uchel sy’n amgylchynu mynyddoedd Eryri (dim cofnodion wrth gwrs o’r mynyddoedd eu hunain - dim cartrefi, dim gerddi!). Mae hi ar ei gwanaf ar dir isel fel Sir Fôn, Llŷn, gogledd dyffryn Clwyd a Cheredigion (er bod y cofnodion yn eitha prin o’r ddwy ardal olaf). Mae’n brin hefyd o gwmpas y trefi mawr fel Caerdydd.

Mae hyn yn dangos ei bod yn bosibl casglu gwybodaeth defnyddiol trwy fobileiddio grwp o bobl gwasgaredig dan amgylchiadau arbennig i rannu eu profiadau.

DB

Rhannu'r map

Dolen

Chwyddo'r map


Cogau Cofid19.jpg