Now Siani

■ Dwin cofio Now o gwmpas Sbytu [Ysbyty Ifan] yn y 60au. Dod i weithio i gael pres a bwyd a dillad. Roedd yn dod i ’sgaru tail. Roedd ffermwyr gyda sypiau bychain o dail gwartheg AR HYD y caeau AC Roedd yntau yn dod i’w chwalu gyda fforch! Now Siani oedd yn cael ei alw! Weithiau roedd wedi dod yn y nos AC wedi mynd i gysgu i’r gwellt mewn llofft allan! Dipyn o fraw i fy nhad yn y bore wrth fwydo’r gwartheg!

Elen Edwards

■ Mae gen i frith gof ohono yn dod rownd Nebo hefyd pan oedden yn aros hefo Nain! Dwi’n cofio Now Siani yn dod i weithio yn Ffrith Gleision ac yn begio am swllt neu ddau gan mam a dad ac yna rhoi pishyn chwech yn ôl i mi !! Atgofion hapus!

Emily Davies

■ Syr Ifor, Mr Murphy a John Price (uchod): Cofio un yn galw yn Llwyncoed, Cwm-Y-Glo pan oeddwn yn plentyn yn y 70au. Roedd yna tray/plat metal yn cael ei gadw ar ‘beams’ y tas wair ac roedd o yn dod a fo i fyny‘r ty a mam yn gwneud bechdan a rhoi dŵr poeth a te iddo. Roedd fy nhad yn dweud enwau rhai ohonynt- Sir Ifor, Mr Murphy, a John Price. Roedd rhyw fath o arwydd ganddynt i adnabod y ffermydd oedd yn rhoi croeso (ond ni wyddom beth oedd y marc) fy nhad yn enwi ffermydd lleol lle roedd un wedi dweud ble roedd croeso a dim croeso i gael, a cofio fel plentyn fel roeddynt yn cael jwg o de gan ei fam a rhoi ei getyn a matches iddi gadw dros nos.

Nerys William