Danadl Poethion Cofnod 18

Y GWAED

Atal gwaed o glwyf: Y feddyginiaeth yn ardal Llanrwst oedd torri blaenau'r dail a’u pwnio ac yna eu rhoi'n blastr ar y clwyf a'i rwymo; fe'i gadewid am ddiwrnod neu ddau ac erbyn iddo gael ei dynnu dywedid y byddai'r croen wedi'i staenio gan y sudd o'r dail. [151: Tap AWC 6728: Mrs Annie Evans, Llanrwst]]