Byddai planhigion megis danadl poethion, dant y llew, neu lygad y dydd o fewn cyrraedd pawb ac fe'u defnyddid hwythau i baratoi rneddyginiaeth stumog. Derbyniwyd tystiolaeth o Landysilio, Penfro; Cwm Hepste, Brycheiniog; Rhyd-y-fro a’r Gilfach-goch, Morgannwg]. Yn ôl KOP, "...yn cael ei ystyried yn neilltuol o dda pe bai plentyn yn cael pwl o gyfog ar ôl gorboethi"