Danadl Poethion Cofnod 2

Daniel Jones, Bronnant:

Gwaedlin: "Ond defnyddio'r sudd o goes y danadl oedd y cyngor a gafodd Daniel Jones, Bronnant, pan oedd yn llanc tuag ugain oed ac yn cael ei boeni'n gyson gan waedlin. Fe'i cynghorwyd i wasgu peth o'r sudd ar damaid o wadin a'i roi yn y ffroenau. Gwnaeth yntau hyn amryw o weithiau gan anadlu'r sudd, ac ni chafodd ei boeni gan waedlin byth wedyn143 [Tap 5708: Daniel Jones, Bronnant]

(Gwaedlin: Mwtro blaenau tair deilen danadl a'u rhoi yn y ffroenau yw cyngor Meddygon Myddfai: 'Kymer blaenau teir dynhaden a thara6 6ynt [sic.] y gyt a dot y bastei honno yn dyfynaf ac y gellych yn y ffroenau')144 [Diverres, Le Plus AncienTexte des Meddygon Myddveu, t. 94]