Danadl Poethion Cofnod 8

Miss Mary Winnie Jones, Cwm Main

Y GWAED

Puro'r gwaed ac afiechydon y gwaed: Te danadl poethion, a wneid a blaenion y dail ifanc, oedd un o'r meddyginiaethau llysieuol mwyaf poblogaidd. Rhoi dŵr berwedig ar y dail y byddai rhai, ond eu berwi a wneid yn fwyaf cyffredin. I gael diod fwy blasus, gellid ychwanegu siwgr at drwyth danadl poethion. Yn yr achos hwn, dylid berwi'r dail am tuag awr i gychwyn ac yna hidlo'r trwyth, ychwanegu'r siwgr ato, a'i ferwi am hanner awr arall a'i botelu wedi iddo oeri. Roedd teulu o Gwm Main yn gyfarwydd â thair gwahanol ffordd o ddefnyddio'r dail, sef ar y ffurf trwyth, wedi crasu yn y popty a'u mau'n fân a'u cymysgu a thriog, neu wedi'u ffrio mewn menyn gyda nionyn, a thorri wy iddynt.