Gwalchwyfyn y Taglys

Cofnod 12

12 7/9/2005 Golan, Garn Dolbenmaen

Lledred a Hydred: 52.959536 -4.194549

Sylwebydd: Tom Jones Tywyddiadur/Oriel

Arbenigwr:

Tystiolaeth: Tom Golan wedi cael gwalchwyfyn convolvulus wrth ei dy, golan, garn dolbenmaen, tua rwan [7/9/05] DB “Wedi gwrando ar D.B. ar Galwad bore yma 13.10.2012 yn darllen o'r Times yn dywedyd eu bod wedi darganfod gwyfyn prin iawn yn Prydain [LLUN GWALCHWFYN Y TAGLYS]. Daeth hwn i'm cof yn syth. Yma yn Ty Capel Bethel ar 7.9.2005 tua 9 yr hwyr fe roeddwn yn sefyll wrth ddrws y ty pan hedfanodd anferth o rhywbeth heibio i mi bron i mi fynd ar wastad fy nghefn ar y cyflymdra y daeth i mewn i'r ty heibio fi. Wedi i mi fedru ei ddal a'i ddarbwyllo na dim ond eisiau tynnu ei lun roeddwn fe dawelodd ac fe dynnais rhai llunnau[ond nid yn rhy dda] dyma rhai o honynt. Clywais am amryw wedi eu gweld yn y cyfnod yma hefyd. Rwyf wedi ei gofnodi yn rhywle ond fedra i ddim rhoi fy llaw arno.” (Tom Jones)

Oedolyn

pendant

1

Llun