Gwalchwyfyn y Taglys

Cofnod 26

26 13/8/2019 Nant Gwynant, Beddgelert

Lledred a Hydred: 53.0374 -4.0471

Sylwebydd: DB, BH, DK Bwletin Llên Natur

Arbenigwr:

Tystiolaeth: Y GWYFYN A'R CAR COCH... WEL AM DDIWRNOD! (Lluniau DK) Wel am ddiwrnod! A hwn oedd yr uchafbwynt. Roedd tri ohonom yn cerdded ar hyd y pafin wrth sgowtian am le i ddal gwyfynod mis nesa (gwyliwch yr hysbysebion) yn Nant Gwynant pan welodd un ohonom (Bruce) y gwyfyn anferth hwn ar olwyn perchennog y caffi gerllaw. (Mi faswn i a Dominig wedi ei bashio yn gwbl ddiarwybod - go dda Bruce)CONVOLVULUS HAWKMOTH! (gwalchwyfyn y taglys) MEDDWN yn syth (dwn i’m pam, dim ond yr adennydd uchaf digon plaen yr olwg oedd i’w gweld a doeddwn i erioed wedi gweld un yn y cnawd - dim ond mewn lluniau). Doedd Bruce ddim mor fyrbwyll a minnau, ac roedd yn amharod i ddweud beth oedd o’n meddwl oedd o. Treulion ni weddill y pnawn yn dadlau ac yn y diwedd cynigiodd B mai gwalchwyfyn y pinwydd oedd o. Doedd dim byd amdani ond bet!! Roedd ein balchder yn werth £10!!! Ar ôl cyrraedd y llyfrau y noson honno, yndw dwi’n gweld be sydd gen Bruce - patrwm yr adennydd blaen yn ffitio g-w pinwydd yn well na gwalch-wyfyn y taglys - ond.... Mae lliwiau’r corff yn cydfynd yn llawer gwell â’r ‘taglys’ (gwglwch os nad ydych yn fy nghoelio). A phu’n bynnag, nid yw’r ‘pinwydd’ yn hedfan ar ol mis Mehefin! Felly dwi’n hawlio fy negpunt diolch yn fawr!! Be dych CHI’N feddwl. Wnewch chi ddim amddifadu eich Golygydd o’i haeddiant cyfiawn siawns?!! Ond efallai mai un o’r gwalchwyfynod eraill ydio. Ymunwch yn y drafodaeth hon rhwng dau gyfaill. Y cyfaill arall, Dominig, tynnodd y lluniau - oedd o eisoes wedi rhagori ar adnabod ffwng y bore hwnnw. Jest tynnu’r llun o’r creadur wnaeth o - a chadw ei ben i lawr! (DK, BH a DB)

Oedolyn

pendant

1

Llun