Cofnod 5


5

Cofnod

Sylwedydd:

Catrin Lliar Jones

Llanaelhaearn

Roedden ni'n byw yn Bryn Meddyg, Llanaelhaearn... Mi oedden ni'n gosod hanner y ty yn ystod tymor yr haf... oherwydd hynny mi roedden ni wedi rhoi rhyw gegin fach at ei gilydd yn y garej... yn fanno oedd mam pan ddigwyddodd y ddaeargryn. Roedd wedi codi cyn pawb fel arfer.... mynd ati i ferwi wyau ar y stôf nwy yno... roedd fy mrawd a fi mewn ystafell fach... bunks, fi yn y top a fo o dan, ac roedd dad ar y soffabed yn y stafell nesa i ni a dwi'n cofio mam yn dweud fel jôc ei fod wastad yn mynd i gymryd daeargryn i ddeffro dad. Roedd mam ar fin rhoi matsen i fewn i'r stof pan glywodd hi swn rymblo mwya diawledig a'r stof a phopeth o'i chwmpas hi yn crynu. Mi redodd hi allan o'r gegin gan bod hi'n meddwl bod y stof ar fin ffrwydro am rhyw reswm... rhedodd allan i'r dreif ac edrych i lawr (mae'n siwr bo fi'n gofio fo'n hirach am mod i'n llai adeg hynny) ac roedd y dreif yn mynd fel tonnau medde hi. O'n i yn y bync top a mi godish i a methu dallt be oedd yna... rhywun yn arfer efo loriau ayb ond oedd hwn i glywed yn llawer iawn mwy dychrynllyd... neidio allan o'r bync a mynd allan o'r ty a mam yn sefyll yno, ac wrth gwrs erbyn hynny mi roedd o wedi tawelu ond y ddwy ohonon ni yn araf sylweddoli bod rhyw fath o ddaeargryn wedi digwydd ac fel oedd y dydd yn mynd yn ei flaen a straeon yn cael eu rhannu, sylwi faint o niwed oedd wedi cael ei wneud i adeiladau o gwmpas a dychryn bod rhywbeth o'r fath yn medru digwydd yn rhywle fel Penlly^n mewn ffordd.... cofio hi fod yn ddiwrnod braf dwi'n meddwl

Trawsgrifiad DB o neges gan Catrin Lliar 3 Awst 2020 ar WhatApp.

Llydred a hydred:

52.986778

-4.4147701