Bysedd y Cŵn (Cofnod) 38

Mrs Leisa Francis

Y CROEN

● Ewinor, ffalwm neu wlithen: Eli wedi'i wneud o ddail ceiniog, dail clatsh y cŵn (bysedd y cŵn) a bloneg a ddefnyddiodd Mrs Leisa Francis, Crymych, pan gafodd `wlithen' eithaf poenus yn ferch ifanc. Fe'i paratoid drwy friwio'r llysiau'n fan ar ddarn o bren.