Annwyd a Pheswch: t. 24 - O Faldwyn y daeth y dystiolaeth helaethaf am gymryd te camomeil i wella annwyd (cafwyd rhai enghreifftiau hefyd o Frycheiniog a Phenfro).
Cofiai Mrs Edith Margretta Ellis, Berth Fawr, Dolanog ger Llanfair Caereinion fynd gyda’i chyfoedion i nôl camomeil dros hen ŵr o ardal Seilo pan oedd hi’n blentyn a chlywodd sôn y byddai ef yn chwysu nes bod y gwely’n wlyb ar ôl cymryd y te.8