Annwyd ar y Frest a Broncitis: t. 40 - Soniodd Mrs Margaret Jennie Thomas, Llwyncynhyrys, Llanymddyfri, fel yr arferid rhoi papur llwyd, gyda phlastr o lard a nytmeg wedi’i ratio arno, ar y frest, a’i gysylltu wrth y crys â phin. Credai fod y feddyginiaeth hon, megis y te ro rownd a’r te gamil a grybwyllwyd ganddi, yn bur effeithiol.114