Taith Safonol/Hanesyddol/Diwylliannol: Taith tua awr, awr a hanner at Plogoneg/Plogonnec – gyfeillwyd â Llandysul.
Mynd i gwrdd â phobl Plogoneg yn Neuadd y Pentref mae’n debyg. Bydd ein cyfaill Yann-Bêr Rivalin yn ein croesawu yno ac yn mynd â ni o gwmpas plwyf Plogoneg:
- Plogoneg : yr eglwys, sy'n cynnwys gwydr wedi'i beintio o'r 16eg ganrif; mae un ohonynt yn dangos dau ddyn ar gefn ceffyl (Telo ac Edern, wrth gwrs, yn gwisgo dillad esgob) ac un arall (hefyd yn gwisgo dillad esgob) mewn cwch, sy'n symbol o'r seintiau di-rif sydd wedi croesi'r môr...
- Capel Teilo Sant/Sant Telo, yn Plogoneg
Ond mae posibiliadau eraill meddai Yann-Bêr...
Yno, cawn fwyd lleol, ac fe fydd Brigitte Kloareg yn codi canu – gyda chynnig arall i Nia a’i chôr ymateb i’r her. Bydd Brigitte yn canu ar ein cyfer ar nos Fercher 12 o Fai.
Ymlaen wedyn tuag at Lokorn/Locronan i gael golwg ar bensaerniaeth o’r 16eg ganrif. Hwn yw cell meudwy Saint Ronan, cenhadwr Cristnogol Gwyddelig. Dyma un o bentrefi prydferthaf yn Llydaw, a ble cafodd y ffilm enwog Tess of the d'Ubervilles ei ffilmiou. Roedd Tess of the d'Ubervilles yn ffoi rhag cyfiawnder yn yr Unol Daleithiau… Yr oedd y pensaerniaeth y pentref hwn yn ymateb gofynion y ffilm mae’n amlwg.
Ychydig o Syniadau gan Yann-Bêr:
- Bydd modd ymweld â rhai lleoedd arwyddocaol ar fws (Kroaz Keben, Plas ar C'horn [ar y mynydd]) neu ar droed (ar Gazeg Wenn, y Gasec Wen!!!).
Byddai hefyd yn bosibl gofyn i rywun trafod hanes y llecyn ungryw hwn ac egluro beth yw “an Droveni”/”la Troménie”.
- Lokorn/Locronan: Yr Eglwys, beddrod Ronan yn y “Peniti”, a'r pulpud sy'n adrodd hanes bywyd Ronan – heb anghofio pensarniaeth arbennig y pentref.
Nodyn : Ystyr "peniti” yw golygi tŷ penyd yn Llydaweg.
MAP O'R DROMENI VRAS SY'N DIGWYDD BOB 6 MLYNEDD
(La Grande Troménie)
-2025-
Gorymdaith bererindod hanesyddol yn Llydaw yw Tromeni Lokorn/Troménie Locronan yn Locronan, Penn-ar-Bed, sy'n anrhydeddu Sant Ronan (o'r Llydaweg tro minihy, sy'n golygu "cylchdaith y noddfa"). Mae'n cyfuno traddodiadau Cristnogol (pardon) â symbolaeth Geltaidd hŷn yn ymwneud â lleoliad a'r tymhorau.
Dau Fersiwn o'r Bererindod
An Dromeni Vras/La Grande Troménie: Cynhelir hon bob chwe blynedd am wythnos ym mis Gorffennaf (rhwng yr ail a'r trydydd Sul). Digwyddodd y ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2025, a bydd y nesaf ym mis Gorffennaf 2031. Mae'n dilyn llwybr cylchol tua 12 km i gyfeiriad yr haul o amgylch tiriogaeth gysegredig Lokorn/Locronan, gan groesi gwastatir Porzae/Porzay a'r Montagne du Prieuré.
An Dromeni Vihan/La Petite Troménie: Cynhelir hon yn flynyddol ar ail Sul mis Gorffennaf yn y blynyddoedd rhwng pob Trmeni Vras/Grande Troménie. Mae'n dilyn llwybr byrrach o 6 km.
Nodweddion a Thraddodiadau Allweddol
Gorsafoedd a Chreirfeydd: Mae'r Dromeni Vras/Grande Troménie yn mynd heibio i 12 gorsaf wedi'u marcio gan groesau gwenithfaen a dwsinau o lochesi addurnedig neu fannau gorffwys ("reposoirs") sy'n arddangos cerfluniau pren neu garreg o seintiau.
Yr Orymdaith a'r Creiriau: Mae pererinion yn cario baneri plwyf, creiriau Sant Ronan, ac yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol Llydewig. Mae'r seremonïau allweddol yn cynnwys cusanu'r baneri ("baiser des bannières") ac Offeren sy'n cynnwys siantiau Lladin a Llydaweg.
Gyda chymorth AI
Bro pobl y dillad gleision - Ydych chi wedi gweld y fideo am y Dromeni Vras?
BETH SYDD I WELD YN PLOGONEG?
Cliciwch ar y llun